Celf a Dylunio

Cyflwyniad

Tirlun

Cafodd Richard Wilson ei eni ger Machynlleth yn 1713. Mae’n cael ei alw’n aml yn ‘dad’ peintio tirluniau ym Mhrydain. Cafodd ddylanwad ar lawer o artistiaid pwysig ddaeth ar ei ôl, yn cynnwys Turner a Constable. Fe astudiodd yn Yr Eidal, ble byddai artistiaid clasurol yn aml yn peintio tirweddau dychmygol neu’n newid manylion er mwyn i olygfeydd fod yn ddelfrydol ac yn gytbwys. Fodd bynnag, roedd gan Wilson ddiddordeb yn y dirwedd go iawn, yn enwedig pan fyddai’n dod adref i Gymru. Cyfunodd y syniad o gydbwysedd gyda’i gariad at natur.