Celf a Dylunio

Cyflwyniad

Tirlun

Mae’r paentiad hwn o’r Wyddfa o’r llyn yn Nyffryn Nantlle yn llonydd a chydnaws iawn. Mae’n dal harddwch tawel yr awyr a’r dŵr ar yr un pryd â drama’r creigiau a’r mynyddoedd. Mae’r cyfansoddiad yn cynnwys cymesuredd fertigol a llorweddol. ’Dyw’r cyfansoddiad ddim yn union yr un peth o ochr i ochr ond mae’n debyg iawn, yn ddigon tebyg i odl mewn barddoniaeth.

  • Mae’r cymesuredd rhwng y top a’r gwaelod yn cael ei greu gan yr adlewyrchiadau yn y llyn.
  • Mae’r llinell cymesuredd rhwng yr ochrau o amgylch llinell sy’n rhedeg o gopa’r Wyddfa i lawr i’r bwlch rhwng y bryniau. ’Dyw’r llinell ddim yn y canol ond yn hytrach mae yn yr ‘adran euraidd’.
  • ’Dyw’r pethau sydd wedi eu cydbwyso o amgylch y llinell ddim yr un fath ond mae ganddynt bwysau gweledol tebyg: brigau uchaf y coed yn cydbwyso gyda’r cymylau, y bryniau yn y pellter canol, y rhan olau o’r awyr.
  • Llwyddodd Wilson hefyd i wneud i’r olygfa ymddangos mor llonydd trwy ddylunio ei gyfansoddiad o amgylch triongl, siâp yr oedd artistiaid y cyfnod yn credu oedd yn creu sylfaen sefydlog.
  • Yn hytrach na denu eich llygaid at linellau sy’n rhedeg i mewn i’r darlun mae wedi peintio’r tirlun mewn planau gwahanol - blaendir, tir canol a phellter.