Celf a Dylunio

Cyflwyniad

Portreadau

Tasg

Byddwch angen deunyddiau tynnu llun neu baentio a ffon fesur.

  • Ewch ati, yn gyflym, i dynnu llun neu baentio tri phortread ar wahanol raddfa. Gallech weithio mewn parau i dynnu lluniau o’ch gilydd neu, fel gwaith cartref, gallech greu hunanbortread mewn drych.
  • Defnyddiwch ffon fesur i fesur uchder a lled pen eich gwrthrych.
  • Crëwch bortread sydd yn union yr un faint, fel bod 1cm ar eich papur yn cynrychioli 1cm o’r gwrthrych ei hun (1:1)
  • Crëwch bortread arall sydd yn chwarter y maint, fel bod 1cm ar eich papur yn cynrychioli 4cm (1:4)
  • Crëwch bortread arall sydd yn ddwbl y maint, fel bod 2cm ar eich papur yn cynrychioli 1cm (2:1)
  • Trafodwch y portreadau. Pa un yw eich hoff un chi? A yw lefel y manylion yn wahanol? A yw’r naws neu’r effaith yn wahanol?