Celf a Dylunio

Cyflwyniad

Cerfluniau

Mae gan bobl go iawn bob math o gyfraneddau. Er enghraifft, efallai bod ganddyn nhw goesau anghyffredin o hir neu fyr i’w maint. Ond yn aml, bydd gan gerfluniau gyfraneddau ‘delfrydol’. Fe gychwynnodd y syniadau hyn am gyfraneddau dynol ‘perffaith’ gyda cherfluniau Groeg a Rhufain yr henfyd.

Bydd artistiaid fel arfer yn mesur ffigurau bob yn ben. Mae’r diagram, o werslyfr ar anatomi ar gyfer artistiaid yn dangos ffigur sy’n 8 pen o daldra. O’r corun, 2 ben i lawr mae’r tethi. 3 phen i lawr mae’r botwm bol a’r penelinoedd. 4 pen i lawr (canolbwynt y ffigur) mae’r arddwrn â llinell ar draws y pen ôl. 6 phen i lawr mae bôn padell y pen-glin.