Celf a Dylunio

Pensaernïaeth capeli

Mae llawer o bensaernïaeth yn defnyddio cymesuredd. Mae’n bwysig iawn mewn pensaernïaeth arddull Clasurol, sy’n seiliedig ar adeiladau Groeg a Rhufain yr henfyd. Mae wynebau nifer o gapeli Cymru’n gymesur oherwydd iddynt gael eu hysbrydoli gan bensaernïaeth Glasurol. Adeiladwyd capeli mewn arddulliau eraill hefyd. Roedd rhai mor syml fel nad oedd ganddynt arddull penodol, ac roedd rhai mewn arddull Gothig.

Pe baech chi’n dychmygu bod llinell i lawr y canol a bod yr adeilad yn edrych yr un fath ar y ddwy ochr, mae’n debyg bod y bensaernïaeth o’r ‘teulu’ Clasurol o arddulliau, fel Groegaidd, Rhufeinig, y Dadeni neu Eidalaidd. Mae Capel Peniel yn Nhremadog yn enghraifft dda. Fe’i hadeiladwyd yn 1810. Roedd y colofnau a’r ffenestr olwyn yn rhan o’r cynllun gwreiddiol, ond cafodd y rhain eu hychwanegu yn 1849. Os edrychwch chi ar gynllun o’r adeilad, mae ei batrwm yn gymesur hefyd. Cewch fwy o wybodaeth am Gapel Peniel, yn cynnwys taith 3D trwyddo, ar wefan Addoldai Cymru.

Tasg

Byddwch angen mynediad ar-lein trwy fwrdd gwyn neu sgriniau eraill.

  • Edrychwch ar www.addoldaicymru.org a chwilio am enghreifftiau o gapeli eraill yng Nghymru.
  • Pa gapeli sydd â wyneb cymesur?
  • Oes gan rai wyneb sydd bron yn gymesur, ond ddim yn hollol?
  • Oes gan rai wyneb sydd ddim yn gymesur o gwbl?
  • Defnyddiwch www.coflein.gov.uk i chwilio am luniau capeli yn eich ardal chi a gofynnwch yr un cwestiynau.

Ymweld

Gellir ymweld â:

  • Capel Peniel, ac eraill sydd dan ofalaeth Addoldai Cymru, trwy drefnu ymlaen llaw.
  • Mae nifer o gapeli y gellir ymweld â hwy ym mhob cwr o Gymru.