Mae cymesuredd wedi bod yn rhan bwysig o grefftau traddodiadol erioed. Roedd y traddodiad o greu llwyau caru’n gryf yng Nghymru yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Byddai gwŷr ifanc yn dangos eu cariad a’u dawn trwy gerfio llwy o un darn o bren a’i rhoi i’r ferch yr oeddent am ei phriodi. Roedd y motiffau a ddefnyddiwyd yn fath o god. Roedd y siâp coma yn cynrychioli’r enaid, twll clo yn golygu creu cartref gyda’ch gilydd, olwyn yn golygu cyfrifoldeb ac, wrth gwrs, roedd calon yn golygu gwir gariad.
Yn aml, roedd yr un motiffau’n cael eu hailadrodd bob ochr i’r llwy, fel bod llinell o gymesuredd adlewyrchiadol o’r top i’r gwaelod. Pe baech yn gosod drych i lawr y canol, fe fyddai’r ddwy ochr yn edrych yn union yr un fath.
Roedd motiffau fel olwynion, sêr a chalonnau’n cynnwys cymesuredd adlewyrchiadol ynddynt eu hunain. Roedd rhai symbolau’n cynnwys cymesuredd cylchdro, sy’n golygu pe baech chi’n eu troi y bydden nhw’n edrych yr un fath - er enghraifft, y droell o siapiau coma.
Gweithiwch allan y llinellau cymesuredd ar y llwyau hyn ac yn eu motiffau. Gallwch weld llawer mwy yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru ar-lein os chwiliwch chi am ‘llwy garu’.
Tasg
Byddwch angen pennau ysgrifennu neu bensiliau a phapur
- Gwnewch lun llwy garu
- Dylech gynnwys o leiaf dri motiff gwahanol wedi eu gosod mewn patrwm cymesur
- Dyfeisiwch fotiff cymesur sy’n golygu rhywbeth i chi
Ymweld
Gellir ymweld â:
- Mae gan lawer o amgueddfeydd lleol arddangosfeydd llwyau caru.