Mae rhannau o sbiralau wedi eu defnyddio yn nyluniad labyrinthau a drysfeydd ers cyfnod Groeg yr henfyd. Defnyddiwyd dyluniad y labyrinth hynafol hwn fel symbol ac fel addurn. Mae’r sbiralau’n dyblu’n ôl ar eu hunain. Ceisiwch ddilyn y llwybr i mewn o’r fynedfa ar y gwaelod.
Mae’r labyrinth hwn o dri sbiral cysylltiedig yn perthyn i ddyluniad y trisgel. Mewn gwirionedd, mae pob rhan wedi ei chreu o ddau sbiral, un y tu mewn i’r llall. Ceisiwch ddilyn y llwybr o’r fynedfa yn y gwaelod.
Yn aml, defnyddir math sgwâr o labyrinth fel addurn. Gelwir hwn yn batrwm Allwedd Roegaidd neu Meandros. Crëwyd y set goffi yma gan gwmni Crochenwaith Portmeirion. Cadwch olwg am yr un cynllun mewn graffeg, lloriau mosaig ac ar flaen hen adeiladau.