Celf a Dylunio

Sbiralau mewn pensaernïaeth

Mae sbiralau wedi ysbrydoli penseiri’n aml. Mae grisiau tro yn cymryd llai o le na grisiau arferol. Maent yn siâp helics, cromlin mewn tri dimensiwn sy’n ymestyn ar i fyny neu ar i lawr ond sydd ddim yn mynd yn lletach. Yn y 1940au, dyluniwyd Ffatri Rwber Brynmawr gyda grisiau helics yn y boelerdy. Roedd yn gynllun clyfar oedd yn ei gynnal ei hun heb golofn ganolog. Mae’n debyg i helics dwbl moleciwlau DNA.

Optimized-RIBA75551.jpg
Grisiau Helics, Ffatri Rwber Brynmawr

Dyluniwyd canolfan gofal canser Maggie yn Abertawe gan y pensaer Japaneaidd, Kisho Kurokawa yn 2011. Roedd am i’r adeilad fod yn un hardd i gleifion canser fod ynddo. Roedd hefyd am iddo fod yn symbol o fywyd ac egni, fel trobwll gyda ‘grymoedd yn chwyrlïo o amgylch y canol’.

7a063dabc8a981dcc09e701802ea1307.jpg
Canolfan Gofal Canser Maggi, Abertawe