Celf a Dylunio

Llythrennu Rhufeinig

Datblygodd y Rhufeiniaid ffurfiau llythrennu clir. Roeddent i’w gweld ledled yr ymerodraeth, gan gynnwys yng Nghymru. Maent yn dal i ddylanwadu ar deipograffeg hyd heddiw.

Naddwyd yr arysgrif hon ar farmor yng Nghaerllion yn 100 Oed Crist. Roedd llythrennu Rhufeinig yn defnyddio priflythrennau’n unig. Mae’r llythrennu’n unionsyth iawn, gyda seriff neu ddolen fechan ar ddiwedd pob llythyren. Roedd y cymesuredd wedi ei ddylunio’n ofalus iawn.

DH000193.jpg
Arysgrif ar farmor yng Nghaerllion

Mae David Lance Goines, y dylunydd teipograffeg o America, wedi creu gwyddor Rufeinig i arddangos geometreg ffurfiau’r llythrennau. Gallwch weld cymesuredd pob llythyren yn seiliedig ar gylchoedd a sgwariau. Er enghraifft, mae’r llinell grom ar waelod y J wedi ei chreu o gylch ger cornel isaf sgwâr.

David-Lance-Goines.jpg
Gwyddor Rufeinig gan David Lance Goines