Meddyliodd rhai arlunwyr yn galed am yr adran euraid a daeth eraill i’r un casgliad yn reddfol. Dyma ddau baentiad gan artistiaid Cymreig gwahanol iawn o’r 1930au.
Roedd Vincent Evans yn arlunydd fyddai’n cynllunio ei baentiadau’n ofalus gan ddefnyddio technegau cyfansoddiad. Mae After the Blast yn dangos glowyr yn atgyweirio ffordd danddaearol mewn pwll glo wedi ffrwydrad. Creodd yr artist siâp cymesurol gyda’r coed ynghyd â llinell gref ar draws y canol. Yna, defnyddiodd yr adran euraid i leoli’r ddau löwr. Mae eglurder y cyfansoddiad yn eich helpu i ddychmygu crefft a gofal y glowyr.
Y nodweddion fertigol ar yr adran euraid yw: ar y dde, wyneb a phen-glin y glöwr sy’n penlinio a throed y glöwr sy’n sefyll, ac ar y chwith pen y glöwr sy’n sefyll. Y nodweddion llorweddol ar yr adran euraid yw: top belt y glöwr sy’n penlinio a chap y glöwr sy’n sefyll, ac ar y gwaelod ddwylo’r glöwr sy’n sefyll.
Roedd Cedric Morris yn hoffi gweithio’n naturiol ac yn reddfol. Ni fyddai fyth yn cynllunio ei luniau. Ond roedd ei ‘lygad’ am yr hyn oedd yn gweithio’n dda mewn paentiad yn aml yn arddangos y gymhareb euraidd. Mae gan Caeharris Post Office nodweddion cryfion ar yr adran euraid. Y nodweddion fertigol yw: ar y dde, yr arwydd ffordd a’r simnai uwchben, ac ar y chwith y goeden ganol a’r adeilad brics coch. Y nodweddion llorweddol yw: yn yr adran isaf y cysgod o dan y toeau, ac yn yr adran uchaf grib y to ar y chwith, y llinell yn yr adeilad brics coch a chrib y simnai fer.
Caeharris Post Office from Gwernlwyn House, 1935, gan Cedric Morris.
© Ystâd Cedric Morris / Bridgeman Images