Celf a Dylunio

Cyflwyniad

Cryfder Siapiau

Tasg

Byddwch angen dalenni o bapur newydd, tâp gludiog ac astell i greu’r sedd.

  1. Rholiwch ddwsin o ddalennau o bapur newydd gyda’i gilydd i greu tiwb a’u tapio ar hyd yr ymyl.
  2. Crëwch fwy o diwbiau, i gyd yr un hyd.
  3. Sylwch fod y tiwbiau’n wan pan wasgwch chi eu hochrau ond eu bod yn gryf pan wasgwch chi o bob pen.
  4. Crëwch driongl allan o dri thiwb wedi eu tapio at ei gilydd ym mhob pen. Teimlwch pa mor gryf yw’r triongl pan geisiwch chi ei wthio i mewn ger y corneli.
  5. Gosodwch y triongl yn fflat ar lawr a gosod rhagor o diwbiau o bob cornel i greu siâp pyramid, a thapio’r cyfan yn sownd i’w gilydd.
  6. Crëwch ddau byramid arall yn union yr un fath.
  7. Gosodwch yr astell ar ben pigyn y tri phyramid i greu stôl.
  8. A yw’r stôl yn gallu dal pwysau? Os ydi, ceisiwch eistedd arni!

Cyngor: Defnyddiwch bapur newydd heb blygiadau ynddo. Lapiwch ddigon o dâp am y corneli.