Celf a Dylunio

Cryfder Siapiau

Rydyn ni gyd yn gwybod bod papur newydd yn wan. Mae’n llipa iawn ac yn hawdd i’w rwygo. Felly, allwch chi greu stôl o bapur newydd? Gallwch, ond ichi ddefnyddio siapau cryfion.

Y siâp cryfaf yw’r triongl. Fel arfer, mae’r tu mewn i doeau wedi eu creu o drionglau. Mae tiwbiau yn gryf iawn hefyd. Fe’u defnyddir i adeiladu pontydd. Os ewch chi ati i greu trionglau gyda thiwbiau, gallwch adeiladu stôl o bapur newydd.

Cryfder Siapiau 1 / The Strength of Shapes 1

Tasg

Byddwch angen dalenni o bapur newydd, tâp gludiog ac astell i greu’r sedd.

  1. Rholiwch ddwsin o ddalennau o bapur newydd gyda’i gilydd i greu tiwb a’u tapio ar hyd yr ymyl.
  2. Crëwch fwy o diwbiau, i gyd yr un hyd.
  3. Sylwch fod y tiwbiau’n wan pan wasgwch chi eu hochrau ond eu bod yn gryf pan wasgwch chi o bob pen.
  4. Crëwch driongl allan o dri thiwb wedi eu tapio at ei gilydd ym mhob pen. Teimlwch pa mor gryf yw’r triongl pan geisiwch chi ei wthio i mewn ger y corneli.
  5. Gosodwch y triongl yn fflat ar lawr a gosod rhagor o diwbiau o bob cornel i greu siâp pyramid, a thapio’r cyfan yn sownd i’w gilydd.
  6. Crëwch ddau byramid arall yn union yr un fath.
  7. Gosodwch yr astell ar ben pigyn y tri phyramid i greu stôl.
  8. A yw’r stôl yn gallu dal pwysau? Os ydi, ceisiwch eistedd arni!

Cyngor: Defnyddiwch bapur newydd heb blygiadau ynddo. Lapiwch ddigon o dâp am y corneli.