Mae hwn yn brint enwog o 1754 gan yr artist William Hogarth. Ei enw arno oedd “Satire on False Perspective”. Mae’n llawn jôcs gweledol am sut y mae pethau’n edrych os bydd artist yn cael persbectif yn anghywir. Sawl peth amhosibl allwch chi eu gweld?
Mae’r fenyw sy’n pwyso allan o’r ffenestr yr un faint â’r dyn ar y bryn yn y pellter, fel ei bod hi’n edrych fel y gallai danio ei getyn. Edrychwch ar y gasgen ar y dde - ddylai hi ddim bod yn bosibl ichi weld ei thop a’i gwaelod ar yr un pryd. Mae tua 20 o broblemau eraill hefyd!