Mae hwn yn brint enwog o 1754 gan yr artist William Hogarth. Ei enw arno oedd “Satire on False Perspective”. Mae’n llawn jôcs gweledol am sut y mae pethau’n edrych os bydd artist yn cael persbectif yn anghywir. Sawl peth amhosibl allwch chi eu gweld?
Mae’r fenyw sy’n pwyso allan o’r ffenestr yr un faint â’r dyn ar y bryn yn y pellter, fel ei bod hi’n edrych fel y gallai danio ei getyn. Edrychwch ar y gasgen ar y dde - ddylai hi ddim bod yn bosibl ichi weld ei thop a’i gwaelod ar yr un pryd. Mae tua 20 o broblemau eraill hefyd!
Tasg
Byddwch angen marciwr llestri a naill ai panel acrylig neu ffenestr. Byddwch hefyd angen ffon hir i’w chlymu i gadair.
Mae’r gair ‘persbectif’ yn dod o’r Lladin am ‘weld trwy’. Mae hyn oherwydd eich bod yn dychmygu edrych allan trwy’r arwyneb darlunio i’r testun y tu hwnt.
- Gosodwch banel acrylig ble gallwch edrych trwyddo neu defnyddiwch ffenestr i edrych y tu allan.
- Os ydych yn defnyddio panel acrylig, gosodwch rywfaint o lyfrau neu wrthrychau syml eraill fel eich testun. Os ydych yn defnyddio ffenestr, gwnewch yn siŵr bod testun syml y tu allan.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’ch pen yn yr union yr un safle wrth i chi arlunio, er enghraifft drwy glymu ffon i gefn cadair i nodi lle dylai’ch gên fod.
- Edrychwch trwy un llygad ac oliniwch siâp yr hyn yr ydych yn ei weld gyda’r marciwr llestri.
- Wedi ichi orffen, sylwch sut y mae pethau’n ymddangos mewn persbectif.
- Rhowch dro ar greu llun arall o safle newydd yn agosach i’r arwyneb darlunio.
- Sylwch os yw’r llun yn fwy neu’n llai. Allwch chi feddwl pam ei fod yn wahanol?
- Wedi ichi orffen, sychwch y llun gyda chlwtyn gwlyb.