Celf a Dylunio

Cyflwyniad

Pan aiff Persbectif o Le

Tasg

Byddwch angen marciwr llestri a naill ai panel acrylig neu ffenestr. Byddwch hefyd angen ffon hir i’w chlymu i gadair.

Mae’r gair ‘persbectif’ yn dod o’r Lladin am ‘weld trwy’. Mae hyn oherwydd eich bod yn dychmygu edrych allan trwy’r arwyneb darlunio i’r testun y tu hwnt.

  • Gosodwch banel acrylig ble gallwch edrych trwyddo neu defnyddiwch ffenestr i edrych y tu allan.
  • Os ydych yn defnyddio panel acrylig, gosodwch rywfaint o lyfrau neu wrthrychau syml eraill fel eich testun. Os ydych yn defnyddio ffenestr, gwnewch yn siŵr bod testun syml y tu allan.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’ch pen yn yr union yr un safle wrth i chi arlunio, er enghraifft drwy glymu ffon i gefn cadair i nodi lle dylai’ch gên fod.
  • Edrychwch trwy un llygad ac oliniwch siâp yr hyn yr ydych yn ei weld gyda’r marciwr llestri.
  • Wedi ichi orffen, sylwch sut y mae pethau’n ymddangos mewn persbectif.
  • Rhowch dro ar greu llun arall o safle newydd yn agosach i’r arwyneb darlunio.
  • Sylwch os yw’r llun yn fwy neu’n llai. Allwch chi feddwl pam ei fod yn wahanol?
  • Wedi ichi orffen, sychwch y llun gyda chlwtyn gwlyb.