Celf a Dylunio

Cyflwyniad

Pwyntiau Persbectif Lluosog

Mewn delweddau gyda phwyntiau persbectif lluosog ceir mwy na dim ond un set o linellau’n arwain i’r pellter. Mae’r paentiad hwn gan Charles Burton yn cynnwys nifer o wrthrychau sydd ar onglau ychydig yn wahanol i’w gilydd. Er enghraifft, mae’r portread ar y dde ar ogwydd yn hytrach na’n sefyll yn fertigol ac mae’r carped ar ongl ychydig yn wahanol i estyll y llawr. Sawl pwynt persbectif fu angen iddo eu defnyddio er mwyn paentio ei destun mewn modd argyhoeddiadol?