Celf a Dylunio

Pwyntiau Persbectif Lluosog

Mewn delweddau gyda phwyntiau persbectif lluosog ceir mwy na dim ond un set o linellau’n arwain i’r pellter. Mae’r paentiad hwn gan Charles Burton yn cynnwys nifer o wrthrychau sydd ar onglau ychydig yn wahanol i’w gilydd. Er enghraifft, mae’r portread ar y dde ar ogwydd yn hytrach na’n sefyll yn fertigol ac mae’r carped ar ongl ychydig yn wahanol i estyll y llawr. Sawl pwynt persbectif fu angen iddo eu defnyddio er mwyn paentio ei destun mewn modd argyhoeddiadol?

Charles-Burton-SW-UOG-2006-4.jpg

Mae’r diagram yn dangos rhai o’r llinellau persbectif sydd yn y paentiad. Mae gwahanol linellau’r estyll mewn melyn a glas golau ac mae llinellau’r carped mewn glas tywyll a choch. Y llinellau gwyrdd tywyll yw ochrau’r gadair a’r llinell gwyrdd golau yw ochr y paentiad. Mae’r pwyntiau persbectif i gyd ymhell y tu hwnt i ymylon y llun.