Celf a Dylunio

Cyflwyniad

Cerflunwaith

Mae Meri Wells yn creu ffigurau ceramig sydd weithiau’n gymharol dal. Mae angen iddyn nhw fod yn gytbwys neu fel arall fe fydden nhw’n cwympo a thorri. Gwyliwch y ffilm ohoni yn ei stiwdio ger Machynlleth. Gwrandewch arni’n sôn sut y bydd yn gwneud i’w ffigurau gadw’u cydbwysedd, a pham nad yw hi’n hoffi iddyn nhw fod yn gymesur.