Tasg
Byddwch angen si-so yn y maes chwarae, neu ddeunyddiau i greu model o si-so yn yr ystafell ddosbarth, fel darn o bren gwastad a gwaelod trionglog i’w osod arno. (Clorian – dewisol.)
Defnyddiwch y si-so i brofi sut mae cydbwysedd yn gweithio.
- All person neu wrthrych trwm gydbwyso dau sy’n llawer ysgafnach?
- All gwrthrych neu berson trwm gydbwyso un llawer ysgafnach os byddwch yn ei symud yn nes at y pwynt cydbwysedd yn y canol?
- Yw’r gwrthrychau’n edrych yn weledol gytbwys neu anghytbwys yn eich barn chi?
- Yw e’n fwy diddorol i edrych arno pan mae’n gymesur neu’n anghymesur?
- Os oes gennych glorian, gallech adio pwysau’r bobl neu’r gwrthrychau i weld sut maen nhw’n cymharu.
- Pan fo’r pwysau yn yr un lleoliad ar bob ochr, mae’r cydbwysedd yn debyg iawn i’r arwydd hafal mewn mathemateg. (Er enghraifft, mae pwysau 5g a phwysau 3g = pwysau 8g.)