Celf a Dylunio

Cyflwyniad

Yr adran euraid a chyfansoddiad paentiadau

Meddyliodd rhai arlunwyr yn galed am yr adran euraid a daeth eraill i’r un casgliad yn reddfol. Dyma ddau baentiad gan artistiaid Cymreig gwahanol iawn o’r 1930au.

Roedd Vincent Evans yn arlunydd fyddai’n cynllunio ei baentiadau’n ofalus gan ddefnyddio technegau cyfansoddiad. Mae After the Blast yn dangos glowyr yn atgyweirio ffordd danddaearol mewn pwll glo wedi ffrwydrad. Creodd yr artist siâp cymesurol gyda’r coed ynghyd â llinell gref ar draws y canol. Yna, defnyddiodd yr adran euraid i leoli’r ddau löwr. Mae eglurder y cyfansoddiad yn eich helpu i ddychmygu crefft a gofal y glowyr.

Y nodweddion fertigol ar yr adran euraid yw: ar y dde, wyneb a phen-glin y glöwr sy’n penlinio a throed y glöwr sy’n sefyll, ac ar y chwith pen y glöwr sy’n sefyll. Y nodweddion llorweddol ar yr adran euraid yw: top belt y glöwr sy’n penlinio a chap y glöwr sy’n sefyll, ac ar y gwaelod ddwylo’r glöwr sy’n sefyll.