Weithiau, bydd hyd yn oed gwrthrychau cyffredin yn cael eu dylunio â phatrymau addurnol. Mae’r enghraifft hon yn ddellt awyru Fictoraidd y daeth yr artist Falcon Hildred o hyd iddi mewn hen siop oedd yn cael ei chwalu. Plât syml oedd hwn i orchuddio twll yn wal, ond roedd rhywun wedi mynd i’r drafferth o’i wneud yn hardd. Cafodd dylunwyr Fictoraidd eu hysbrydoli gan batrymau geometregol yr Oesoedd Canol, er enghraifft yng ngwaith cerrig eglwysi a chadeirlannau.
Sut wnaeth dylunydd y ddellt awyru yma lwyddo i greu patrwm mor gymhleth mor gywir? Roedd gan Falcon Hildred ddiddordeb mewn datrys sut cafodd y patrwm ei greu o linellau, cylchoedd ac arcau. Fe greodd y llun yma i ddangos y camau i gyd, o’r chwith i’r dde.
Tasg
Gallwch ddarllen camau 1-9 isod ac edrych ar y llun i weld sut cafodd ei greu. I greu eich fersiwn eich hun o’r patrwm, byddwch angen rhaglen ddylunio gyfrifiadurol neu bapur a phensel, ffon fesur a chwmpawdau.
- Tynnwch lun llinellau fertigol a llorweddol i greu grid o sgwariau.
- Tynnwch luniau cylchoedd sydd â’u canol ar gorneli eich sgwariau a llinellau croeslinol yn rhedeg trwyddynt.
- Tynnwch lun pedwar cylch llai o faint o amgylch y cylchoedd mawr cyntaf wedi eu canoli ble maent yn croesi’r llinellau fertigol a llorweddol.
- Tynnwch lun cylch arall y tu mewn i’r cylch cyntaf i greu modrwy.
- Lluniwch flychau croeslinol o amgylch pob grŵp o gylchoedd.
- Tynnwch lun arcau wedi eu canoli ar y cylchoedd bychan.
- Tafluniwch fwy o linellau croeslinol o ganol y cylchoedd bychan a mynd dros bob llinell yr ydych am ei dangos.
- Gwnewch y llinellau yr ydych am eu dangos yn llinellau dwbl.
- Dilëwch / rhwbiwch allan eich llinellau gwaith er mwyn dangos y siapiau terfynol.
Gallech roi tro ar gwblhau’r camau mewn trefn wahanol er mwyn creu eich patrwm eich hun.