Weithiau mae artistiaid yn hoff o gynnwys siapiau cryfion yn eu paentiadau. Mae’r llun bywyd llonydd hwn gan John Bowen yn dangos bwyd ar fwrdd. Gallwch weld ei fod yn mwynhau siapiau geometregol rhai o’i wrthrychau - y tomato a’r sleisen o lemon crwn a’r pysgodyn a’r lemonau cyfan sydd bron yn hirgrwn. Fe ychwanegodd lawer mwy o siapiau geometregol. Mae’r lliain bwrdd wedi ei addurno â rhesi, cylchoedd, sgwariau a thrionglau. Yn lle dangos top y bwrdd mewn persbectif fe wnaeth ei osod fel sgwâr. Mae’r papur pinc o dan y pysgodyn bron â bod yn driongl. Mae’r papur wal wedi ei greu o linellau a dotiau.
Tasg
Byddwch angen paent, papur a sisyrnau, neu raglen ddylunio gyfrifiadurol.
- Ewch ati i greu llun bywyd llonydd sy’n cynnwys siapiau geometregol.
- Defnyddiwch drionglau, sgwariau, cylchoedd, rhombi, petryalau neu siapiau eraill o wahanol faint.
Ymweld
Gellir ymweld â:
- Still Life with Lemons, 1956, gan John Bowen yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful