Nid yw’r rhan fwyaf o gelf o’r hen fyd wedi goroesi ond mae ambell i fosaig Rhufeinig wedi goroesi oherwydd eu bod wedi eu creu o garreg neu wydr. Mae ambell un wedi ei ddarganfod yng Nghymru.
Unwaith, safai fila Rufeinig ger Llanilltud Fawr ble mae dim ond cae heddiw. Pan aeth archeolegwyr i dyllu yn y cae, fe ddaethon nhw o hyd i loriau mosaig addurnol. Mae’n debyg iddyn nhw gael eu gosod yn y bedwaredd ganrif OC. Yn fuan wedyn, gadawyd y fila a dadfeiliodd dros amser. Roedd y lloriau’n cynnwys patrymau geometregol wedi eu creu o sgwariau du a gwyn.
Darganfuwyd mwy o fosaigau ger Casnewydd ar safle tref Rufeinig Venta Silurum, sef Caer-went heddiw. Mae darn ohono wedi ei gadw yn eglwys Caer-went ac mae mosaig arall o anifeiliaid o Gaer-went yn Amgueddfa Casnewydd.
Tasg
Nid oes angen adnoddau ychwanegol.
Edrychwch ar y lluniau o’r mosaigau Rhufeinig. Beth yw siâp y darnau a ddefnyddiwyd i’w creu? Pa liwiau maen nhw’n eu defnyddio? Pa wahanol siapiau a phatrymau allwch chi eu gweld?
Dylech weld:
- siapiau diemwnt
- patrwm cwlwm
- patrwm labyrinth, neu siâp sbiral
- llinellau
- rhannau o sgwariau
- rhyngles, fel llun o ddwy raff wedi eu plethu gyda’i gilydd
- calon
Cewch hyd i ragor o wybodaeth am fila Llanilltud Fawr yma.
Tasg estynedig
Naill ai taith maes mewn grŵp neu astudiaeth annibynnol.
Roedd mosaigau’n ffasiynol ar gyfer siopau rhwng tua 1850 a 1950, yn enwedig ar drothwy’r drws. Edrychwch os allwch chi weld mosaigau yn eich tref leol a gwnewch nodyn neu fraslun i’w disgrifio.
Ymweld
Gellir ymweld â:
• Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, Aberystwyth, i edrych ar archif Llanilltud Fawr
• Amgueddfa Casnewydd i edrych ar fosaigau o Gaer-went
• Eglwys Caer-went i edrych ar y mosaig o Gaer-went
• Hen siopau yn eich tref