Celf a Dylunio

Sawl lliw sydd ei angen yn eich map?

Sawl Lliw i’ch Map Chi?

Map o hen siroedd Cymru.
Map o hen siroedd Cymru.

Pan fydd pobl yn creu llun o fap, yn aml byddant yn dangos pob adran mewn lliw gwahanol i’r rhai o’i amgylch er mwyn gwneud iddo sefyll allan yn glir. Mae’r map hwn yn dangos hen siroedd Cymru. Mae’r siapiau lliw yn ffitio gyda’i gilydd fel mosaig.

Sylweddolodd gwneuthurwyr mapiau nad oedden nhw angen mwy na phedwar lliw i wneud yn siŵr nad oedd ardaloedd o’r un lliw fyth yn cyffwrdd â’i gilydd. (Gyda’r map hwn, dewisodd gwneuthurwyr y map ddefnyddio mwy.) Roedd gan fathemategwyr ddiddordeb pam mai dim ond pedwar lliw oedd ei angen, dim gwahaniaeth sut y byddent yn ffurfio’r siapiau. Fe gymerodd dros gan mlynedd a chyfrifiaduron i ddod o hyd i’r ateb mathemategol. 

Tasg

Byddwch angen: papur, pensiliau neu bennau ysgrifennu lliw.

Ceisiwch dynnu llun mosaig yn llawn siapiau y gallwch ei liwio i mewn fel map. Allwch chi ei liwio i mewn gyda dim ond pedwar lliw a gwneud yn siŵr bod pob siâp yn lliw gwahanol i’r rhai sy’n ei gyffwrdd?