Celf a Dylunio

Cwlwm Celtaidd

Defnyddiwyd llawer ar y patrwm a adnabyddir fel y Cwlwm Celtaidd yng Nghymru yn y Canol Oesoedd. Gallwch ei weld ar henebion fel croesau. Gallwch ei weld hefyd mewn llawysgrifau goliwiedig. Mae’r patrwm yn edrych fel rhubanau neu raffau sy’n mynd trosodd ac oddi tanodd, fel plethen mewn gwallt. Mae cannoedd o amrywiadau i gael. Fel arfer, nid oes dechrau na diwedd i’r cwlwm, felly gallwch ddilyn y rhuban rownd a rownd.

Mae Croes Cynfelin yn enghraifft o batrwm Cwlwm Celtaidd sydd wedi ei gerfio mewn carreg. Daw’r groes o Fargam ger Abertawe ac mae’n fil o flynyddoedd oed. Mae’n groes wedi ei gosod ar gylch.

Margam-Stones-7-Cross-of-Conbelin.JPG
© RobinLeicester [CC BY-SA 3.0 (https://creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0)]

Tasg

Byddwch angen pensiliau a phapur.

  • Dilynwch y fideo i dynnu llun eich panel Cwlwm Celtaidd eich hun.
  • Dechreuwch trwy dynnu llun grid o ddotiau.

Sylwch nad yw’r patrwm yn un â chymesuredd adlewyrchiad ond sydd â chymesuredd cylchdro – mae’n edrych yr un fath pan fyddwch yn ei droi.     

Llunio Cwlwm Celtaidd / Draw a Celtic Knot