Celf a Dylunio

Gwaith plastr

Un o gelfyddydau mawr yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg oedd gwaith plastr. Crëwyd nenfwd yr oriel hir yng Nghastell Powys, Y Trallwng tua 1593. Barnwyd bod yr oriel hir yn un o’r ystafelloedd harddaf yng Nghymru. Mae’n cynnwys patrwm a ailadroddir sy’n rhedeg ar ei hyd o un pen i’r llall. Y prif batrwm yw’r un o’r rhuban yn dolennu. Mae’n rhaid bod y dylunwyr wedi gorfod cynllunio hwn yn ofalus iawn gyda chwmpawdau a gan ddefnyddio eu dealltwriaeth o geometreg. Rhwng y rhuban, dyluniwyd llawer o wahanol blanhigion a blodau gyda chromlinau tebyg.

Mae plastr yn ddeunydd anodd iawn i’w weithio. Allwch chi ddychmygu pa mor anodd fyddai hi i dynnu llun manwl gywir o’r patrwm ac yna ei greu mewn plastr?

Plaster-ceiling-of-Powis-Castle-long-gallery.jpg
Castell Powis, Y Trallwng, c. 1593