Celf a Dylunio

Persbectif Pwynt-unigol

Mae’r paentiad hwn o’r tu mewn i Waith Haearn Cyfarthfa ym Merthyr Tudful yn enghraifft o ddefnyddio pwynt persbectif unigol neu ‘ddiflanbwynt’. Dyma’r pwynt lle mae llinellau syth yr adeilad yn pwyntio. Fe osododd yr artist, Penry Williams, ei bwynt persbectif yn y fynedfa fwaog tywyll yn y pellter. Os dilynwch chi linellau’r to neu linellau’r llawrlechi, fe welwch eu bod i gyd yn cwrdd yn y lle yma.

Mae cyplau (trusses) yn y to sydd wedi eu gosod o un ochr i’r llall a thrawstiau sy’n arwain i ffwrdd oddi wrth y safbwynt. Oherwydd bod yr artist yn edrych yn syth yn ei flaen, fe dynnodd lun yr holl linellau ochr-i-ochr fel rhai llorweddol. Gallwch ddychmygu sut y mae’r llinellau llorweddol hyn yn creu trionglau gyda’r llinellau oddi tanynt sy’n arwain tuag at y pwynt persbectif. Fe dynnodd lun y colofnau’n gwbl fertigol.

Penry-Williams-Cyfarthfa-Ironworks-Interior-at-Night.jpg
Gwaith Haearn Cyfarthfa, Penry Williams