Mae’r ffotograff yma o’r awyr o Ysgol Gynradd Mount Stuart ym Mae Caerdydd yn dangos bod y ddau adeilad fel cacennau crwn gyda darn wedi ei thorri o’r ddwy.
Pan edrychwch chi’n agos, fe welwch nad ydyn nhw’n grwn ond bod ganddynt nifer o ochrau syth. Maent wedi eu creu o drionglau sy’n pwyntio tua’r canol ac sy’n ffitio gyda’i gilydd yn berffaith. Byddai'r adeiladau’n cynnwys 16 o drionglau sy’n union yr un fath i greu polygon 16-ochrog pe bae ‘darnau’r gacen’ i gyd yno. (Pe baech yn dychmygu bod llinell ar draws y canol - fe welwch fod gan hanner yr adeilad 8 triongl cyflawn.)
Po fwyaf o ochrau sydd gan bolygon, yr agosaf y bydd i fod yn gylch. Mae’r dylunydd wedi creu ymdeimlad o gylch gan ddefnyddio waliau syth sy’n llawer rhatach i’w hadeiladu na rhai crwm gyda gwydr crwm yn y ffenestri.