Roedd dyfeisiwr o California, o’r enw Christian Weber, eisiau creu llochesi ar gyfer gŵyl roc yn yr anialwch. Fe sylweddolodd y gallai greu lloches allan o ddeunydd wedi’i insiwleiddio gan ddefnyddio syniadau origami. Roedd yn hawdd i’w gludo, yn gryf ac yn gyflym iawn i’w osod. Sylweddolodd y gallai ei loches blygadwy helpu ffoaduriaid a phobl mewn argyfyngau. Fe’i galwodd yn Shiftpod. Gallai uno nifer o’r llochesi at ei gilydd i greu tai mwy o faint.
Fe welwch o’r llun bod y siâp wedi ei greu o drionglau hafalochrog. Gwyliwch y fideo. Gellir cario’r pod mewn bag a’i osod mewn 1 funud ac 20 eiliad.